Oherwydd:
- Mewnfudo anferth i'r Fro Gymraeg
Gyda mewnfudo ar lefel rhesymol, mae modd i'r newydd-ddyfodiaid ddysgu'r Gymraeg, fel sydd wedi digwydd am ganrifoedd. Erbyn heddiw, mae'r niferoedd y tu hwnt i unrhyw reswm, ac mae'r Gymraeg yn cael ei boddi.
- Prisiau tai cwbl afresymol
Mae Parc Cenedlaethol Swydd Efrog wedi penderfynu bod neb ond pobl leol yn medru prynu tai newydd yn y Parc. Pryd bydd cynghorau sir yng Nghymru yn sylweddoli bod ein hangen ni cymaint ag angen pobl Swydd Efrog?
- Economi gwan yn y Fro Gymraeg
Mae gormod o gynghorau eisiau gweld un ateb mawr i ddatrys pob dim. Ond beth sydd angen ydy cryfhau busnesau bychain lleol, dim gwerthu eneidiau i gwmnïau mawrion barus o bell i ffwrdd.
Gwnewch rywbeth heddiw: